Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cynnig rheolau newydd i gynnal mynediad rhesymol i arian parod ar gyfer cwsmeriaid personol a busnes ledled y DU. Mae hyn yn dilyn pwerau newydd a roddwyd i'r FCA gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2023.
O dan gynigion yr FCA, bydd angen i fanciau a chymdeithasau adeiladu dynodedig asesu bylchau mewn mynediad at arian parod. Mae angen i'r asesiadau hyn ystyried ffactorau lleol fel demograffeg a thrafnidiaeth. Pan fydd cwmnïau'n adnabod bylchau, bydd angen iddynt weithredu i fynd i'r afael â'r anghenion hyn.
Dywedodd Sheldon Mills, Cyfarwyddwr Gweithredol Defnyddwyr a Chystadleuaeth yn yr FCA: 'Rydym yn gwybod, er bod symudiad cynyddol i daliadau digidol, bod dros 3 miliwn o ddefnyddwyr yn dal i ddibynnu ar arian parod - yn enwedig pobl a allai fod yn fregus - yn ogystal â llawer o fusnesau bach. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi defnyddwyr y mae datblygiadau arloesol diweddar yn effeithio arnynt.
'Mae'r cynigion hyn yn nodi sut y bydd angen i fanciau a chymdeithasau adeiladu asesu a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth arian parod leol. Bydd hyn yn helpu i reoli cyflymder y newid a sicrhau y gall pobl barhau i gael gafael ar arian parod os oes ei angen arnynt.'
O Ch1 2023, mae 95.1% o boblogaeth y DU o fewn 1 filltir i bwynt tynnu arian parod am ddim, fel peiriannau arian parod neu ganghennau Swyddfa'r Post. Mae 99.7% o boblogaeth y DU o fewn 3 milltir. Fodd bynnag, gall argaeledd gwasanaethau mynediad arian parod effeithio ar gymunedau lleol, economïau a'r stryd fawr, ac felly mae'n bwysig cwrdd ag anghenion lleol - a allai newid dros amser.
O dan y cynigion, bydd yn ofynnol i gwmnïau penodedig:
Cynnal asesiadau mynediad arian parod pan fo newidiadau'n cael eu gwneud i wasanaethau mynediad arian parod – er mwyn deall a oes angen gwasanaethau ychwanegol i gwrdd â bylchau lleol.
Ymateb i geisiadau gan drigolion lleol, sefydliadau cymunedol a chynrychiolwyr i ystyried, asesu a llenwi bylchau.
Darparu gwasanaethau arian parod ychwanegol rhesymol i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth lle mae asesiadau'n dangos bod bwlch lleol sylweddol neu y bydd bwlch lleol sylweddol.
Sicrhau nad ydynt yn cau cyfleusterau arian parod, gan gynnwys canghennau banc, hyd nes y bydd unrhyw wasanaethau arian parod ychwanegol sydd wedi’u hadnabod ar gael.
Nid yw pwerau newydd yr FCA yn atal canghennau banciau rhag cau. Fodd bynnag, bydd y rheolau'n cael effaith lle mae canghennau'n ffynhonnell arian parod lleol allweddol. Bydd yr FCA yn sicrhau bod y rheolau hyn yn gweithio law y llaw â'i ganllawiau presennol ar gau canghennau banc. Mae'r gyfraith bresennol yn caniatáu i fanwerthwyr benderfynu a ydynt yn derbyn arian parod ai peidio - felly ni all yr FCA fynnu eu bod yn gwneud hynny.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 8 Chwefror. Mae'r FCA yn disgwyl cwblhau'r rheolau erbyn Ch3 2024.
Nodiadau i olygyddion
Dolen i'r Papur Ymgynghori.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein data diweddaraf ar fynediad at arian parod yn y DU.
Mae'r cynigion hyn yn dilyn pwerau newydd a roddwyd i'r FCA gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2023.
Dolen i ganllawiau ar gau canghennau banc.
Mae'r gyfraith bresennol yn caniatáu i fanwerthwyr benderfynu a ydynt yn derbyn arian parod ai peidio - felly ni all yr FCA fynnu eu bod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd ein dull gweithredu arfaethedig yn anelu at sicrhau bod gan BBaChau fynediad digonol at gyfleusterau adnau arian parod, gan helpu i sicrhau bod y manwerthwyr hynny sy'n dymuno derbyn arian parod yn parhau i allu gwneud hynny.
Bydd y cwmnïau sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn cael eu dynodi gan HMT a'u cyhoeddi maes o law.
https://www.fca.org.uk/news/press-re...yddol-ddigidol
Comment